Job Title: Engagement Coordinator - Temporary Opportunity until 31st January 2026
Advertised Salary: £30,250 Full Time Equivalent
Working Hours: 20 Hours, Monday - Friday, some evenings and weekends are required for this role.
Location: The Engagement Coordinator will be working across Wrexham and along the Llangollen Canal to deliver a health and sports engagement project.
We're the charity who look after and bring to life 2,000 miles of waterways across Wales and England, because we believe that life is better by water. Every role across the Trust plays its part in transforming our canals and rivers into spaces where local people want to spend time and feel better, bringing wellbeing benefits to millions. Our canals and rivers are the perfect places to boost your mood and improve your physical and mental health. Even in busy towns and cities, they provide special spaces where you can relax, recharge, and connect with others.
About the role
We are recruiting for an Engagement Coordinator, to lead on the development and delivery of a community engagement project in and around Wrexham, as part of our Wales & South West team. This is part of a test and learn project funded by Actif North Wales, the first regional physical activity and sport partnership to go “live” in Wales.
The Engagement Coordinator will deliver a bespoke local project for young women and girls facing inequalities, to understand the barriers which prevent them from participating in physical activity. Through this you will engage and connect with communities living alongside the Llangollen Canal to provide opportunities for connection with nature, and a variety of other health and wellbeing activities, as well as improved physical activity.
With partners, we will work with young women and girls in identified area who face significant challenges and will benefit the most. The project will be developed and co-produced with girls and community groups, drawing on existing insight from community engagement findings, local strategies and knowledge from Local Authorities, charities and other community-based organisations.
The Engagement Coordinator will lead on the project to test and earn new and innovative ways of engaging young women and girls in physical activity, in a safe and accessible way on and beside our waterways. By adopting a place-based approach and working in partnership, you will foster a sense of community ownership amongst participants to support the initiative longer term, and ensure outcomes can be sustained beyond the funding. Working with an evaluator, the learning and insight gathered from this project will inform future longer-term approaches to help create active communities in North Wales, and change patterns of use and perceptions of communities living near the canal, to make their local waterway relevant to them.
Location and coverage
You will be based from home, with access to facilities at our Trevor Basin Visitor Centre, however regular travel and working at different locations in North Wales, especially along the Llangollen Canal and in Wrexham, is essential. We expect that you will be working on site for an average of 70% of your time, but this varies throughout the year depending on the season. Focus areas will be Wrexham and the Llangollen Canal. Some occasional travel beyond those waterways may be required for the purposes of collaboration.
See our network here (https://canalrivertrust.org.uk/about-us/where-we-work).
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Title Swydd: Cydlynydd Ymgysylltu – Cyfle Dros Dro tan 31 Ionawr 2026
Cyflog a Hysbysebir: £30,250 Cyfwerth ag Amser Llawn
Oriau Gwaith: 20 awr, Dydd Llun - Gwener, gyda rhai nosweithiau a phenwythnosau.
Lleoliad: Bydd y Cydlynydd Ymgysylltu yn gweithio ar draws Wrecsam ac ar hyd Camlas Llangollen i gyflawni prosiect ymgysylltu iechyd a chwaraeon.
Ni yw’r elusen sy’n gofalu am ac yn dod â 2,000 milltir o ddyfrffyrdd ledled Cymru a Lloegr yn fyw, oherwydd ein bod ni’n credu bod bywyd yn well ger dŵr. Mae pob rôl ar draws yr Ymddiriedolaeth yn chwarae ei rhan wrth drawsnewid ein camlesi a’n hafonydd yn fannau lle mae pobl leol eisiau treulio amser a theimlo’n well, gan ddod â manteision lles i filiynau. Ein camlesi a’n hafonydd yw’r lleoedd perffaith i roi hwb i’ch hwyliau a gwella’ch iechyd corfforol a meddyliol. Hyd yn oed mewn trefi a dinasoedd prysur, maent yn darparu mannau arbennig lle gallwch ymlacio, ailwefru, a chysylltu ag eraill.
Amdan y rôl
Rydym yn recriwtio Cydlynydd Ymgysylltu, i arwain ar ddatblygu a chyflwyno prosiect ymgysylltu cymunedol yn Wrecsam a’r cyffiniau, fel rhan o’n tîm Cymru a De-orllewin Lloegr. Mae hyn rhan o brosiect profi a dysgu â ariennir gan Gogledd Cymru Actif, y bartneriaeth gweithgarwch corfforol a chwaraeon rhanbarthol gyntaf i fynd yn “fyw” yng Nghymru.
Bydd y Cydlynydd Ymgysylltu yn cyflwyno prosiect lleol pwrpasol ar gyfer menywod ifanc a merched sy’n wynebu anghydraddoldebau, er mwyn deall y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Drwy hyn byddwch yn ymgysylltu ac yn cysylltu â chymunedau sy’n byw ar hyd Camlas Llangollen i ddarparu cyfleoedd i gysylltu â natur, ac amrywiaeth o weithgareddau iechyd a lles eraill, yn ogystal â gwell gweithgaredd corfforol.
Gyda phartneriaid, byddwn yn gweithio gyda merched a menywod ifanc mewn ardaloedd a nodwyd sy’n wynebu heriau sylweddol ac a fydd yn elwa fwyaf. Bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu a’i gyd-gynhyrchu gyda merched a grwpiau cymunedol, gan dynnu ar fewnwelediad presennol o ganfyddiadau ymgysylltu cymunedol, strategaethau lleol a gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol, elusennau, a sefydliadau cymunedol eraill.
Bydd y Cydlynydd Ymgysylltu yn arwain y prosiect i brofi a dysgu ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu menywod a merched ifanc mewn gweithgaredd corfforol, mewn ffordd ddiogel a hygyrch ar ac wrth ymyl ein dyfrffyrdd. Drwy fabwysiadu dull seiliedig ar le a gweithio mewn partneriaeth, byddwch yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol ymhlith cyfranogwyr i gefnogi’r fenter hirdymor, a sicrhau y gellir cynnal canlyniadau y tu hwnt i’r cyllid.
Lleoliad
Byddwch wedi’ch lleoli o’ch cartref, gyda mynediad at gyfleusterau yn ein Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor, fodd bynnag, mae teithio’n rheolaidd a gweithio mewn gwahanol leoliadau yng Ngogledd Cymru, yn enwedig ar hyd Camlas Llangollen ac yn Wrecsam, yn hanfodol. Rydym yn disgwyl y byddwch yn gweithio ar y safle am gyfartaledd o 70% o'ch amser, ond mae hyn yn amrywio drwy gydol y flwyddyn yn dibynnu ar y tymor. Y meysydd ffocws fydd Wrecsam a Chamlas Llangollen. Efallai y bydd angen teithio’n achlysurol y tu hwnt i’r dyfrffyrdd hynny at ddibenion cydweithio.
Gweler ein rhwydwaith yma (https://canalrivertrust.org.uk/about-us/where-we-work).